Dogfen Cwestiynau Cyffredin

Benthyciad

    Ai grant yw Start Up Loan?

    Na. Mae grant yn gyllid nad oes angen ei ad-dalu a ddarperir gan unigolyn neu sefydliad at ddiben penodol, ond rhaid ad-dalu Start Up Loan yn llawn dros dymor y cytunwyd arno o un i bum mlynedd.

    Mae Start Up Loans yn cael eu hariannu gan y llywodraeth ac felly’n cael eu hystyried yn Gymorth Gwladwriaethol.

    Beth yw Cymorth Gwladwriaethol?

    Ystyrir cymorth a ddarperir trwy Start Up Loans, fel nifer o gynlluniau cymorth busnes a gefnogir gan y Llywodraeth, yn Gymorth Gwladwriaethol.

    Mae Cymorth Gwladwriaethol yn derm gan y Comisiwn Ewropeaidd sy’n cyfeirio at fathau o gymorth gan gorff cyhoeddus neu gorff a ariennir yn gyhoeddus, a roddir ar sail ddewisol i fentrau sy’n ymwneud â gweithgaredd masnachol economaidd, gyda’r potensial i ystumio cystadleuaeth ym marchnad yr Undeb Ewropeaidd trwy ffafrio un darparwr dros un arall.

    Mae darparu Cymorth Gwladwriaethol o’r fath yn cael ei lywodraethu gan reoliadau a wneir gan y Comisiwn Ewropeaidd.

    Mae cymorth de minimis yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio symiau bach o Gymorth Gwladwriaethol sydd ddim yn gofyn am gymeradwyaeth y Comisiwn Ewropeaidd. Cyfanswm y cymorth de minimis a ellir ei roi i un derbynnydd yw €200,000 dros gyfnod cyllidol o 3 blynedd.  Mae terfynau is yn berthnasol os yw eich busnes newydd yn ymwneud â chludo nwyddau ar y ffyrdd, amaethyddiaeth, pysgodfeydd neu ddyframaethu. Ni ellir rhoi cymorth de minimis i helpu i sefydlu rhwydwaith ddosbarthu nac ar gyfer gwariant arall sy’n gysylltiedig â gweithgaredd allforio (ac ni ellir ei ddefnyddio chwaith i ariannu rhai gweithgareddau yn y sector pysgodfeydd a dyframaethu fel y’u rhestrir yn Erthygl 1, Paragraff 1 o Reoliad 717/2014 y Comisiwn Ewropeaidd).

    Cyfrifoldeb derbynnydd y benthyciad yw cadw cofnodion o unrhyw Gymorth Gwladwriaethol sy’n deillio o gymorth a dderbyniwyd am o leiaf deng mlynedd o’r dyddiad y’i derbyniwyd a sicrhau nad ydynt yn mynd y tu hwnt i’r terfyn tair blynedd treigl.

    Os bydd derbynnydd benthyciad yn gwneud unrhyw gais arall i gynllun cymorth y bernir ei fod yn darparu Cymorth Gwladwriaethol yn ystod y tair blynedd nesaf, bydd gofyn iddynt hysbysu gweithredwr y cynllun hwnnw am y Cymorth Gwladwriaethol a dderbyniwyd trwy Start Up Loans ac unrhyw gymorth arall perthnasol o ffynonellau eraill.

    Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn rhoi gwybod i chi trwy e-bost gwerth y cymorth de minimis sy’n deillio o’ch Start Up Loan.

    Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Gymorth Gwladwriaethol yma neu gallwch fynd i wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

    Pa fath o gyllid sy’n cael ei ddarparu o dan y cynllun Start Up Loans?

    Mae cyllid yn cael ei ddarparu trwy fenthyciad personol sy’n cael ei reoleiddio dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974. Golyga hyn bod y benthyciad yn cael ei gymryd allan yn eich enw chi ac nid enw eich menter. Mae’r benthyciad yn ad-daladwy ar sail fisol hyd ddiwedd cyfnod y benthyciad. Nid grant yw’r cyllid a ddarperir i chi.

    Pam bod Start Up Loan yn fenthyciad personol ac nid yn fenthyciad busnes?

    Credwn ei bod yn bwysig i berchnogion busnes fuddsoddi’n bersonol yn llwyddiant eu busnes, a dyna pam mae Start Up Loans wedi’u strwythuro fel benthyciadau personol yn hytrach na benthyciadau busnes. Trwy wneud unigolion yn atebol am eu had-daliadau rydym yn ceisio grymuso ymgeiswyr i wneud y penderfyniadau cywir drostynt eu hunain a’u busnes, fel faint i’w fenthyg a sut y dylid defnyddio’r arian i gyflawni nodau’r busnes.

    Er mwyn cefnogi ymgeiswyr i wneud y penderfyniadau hyn, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob unigolyn gyflwyno Cynllun Busnes, Rhagolwg Llif Arian a Chyllideb Oroesi Bersonol fel rhan o’u cais. Mae gan y dogfennau hyn ddau bwrpas: Yn gyntaf, maent yn ein helpu i ddeall yn well anghenion personol a busnes unigolion i benderfynu ar y ffordd orau i’w cefnogi nhw. Yn ail, maent yn ein helpu i wneud penderfyniad benthyca gan ein galluogi i asesu gallu unigolyn i ad-dalu’r benthyciad a hyfywedd eu cynlluniau busnes.

    Faint alla i ei fenthyg?

    Gall pob unigolyn fenthyg rhwng £500 a £25,000 ar unrhyw un adeg. Sylwch: os yw partneriaid busnes lluosog yn gwneud cais am fenthyciad ar gyfer yr un busnes, gellir benthyca uchafswm o £100,000 i’r busnes hwnnw yn ystod ei oes a allai effeithio ar y swm y gallwch chi ei fenthyg yn bersonol.

    Yn ogystal, os gwnewch gais llwyddiannus am Start Up Loan, yna ar ôl i chi wneud chwe ad-daliad llawn efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am gyllid ychwanegol ar gyfer yr un busnes ar ffurf Ail Fenthyciad. Dysgu mwy am Ail Fenthyciadau.

    Beth yw swm y benthyciad y gofynnir amdano ar gyfartaledd?

    Mae maint benthyciadau ar gyfartaledd rhwng £5,000 a £10,000, ond wrth gwrs mae’r swm terfynol yn dibynnu yn y pen draw ar anghenion unigolyn, y math o fodel busnes a sut rydych chi’n bwriadu defnyddio’r arian.

    Pam ydych chi’n codi llog ar y benthyciad?

    Rydym yn gynllun a gefnogir gan y llywodraeth felly mae’r holl log yn cael ei  ailfuddsoddi yn y cynllun, sy’n golygu y gall hyd yn oed mwy o unigolion a busnesau elwa o’r cyllid a’r gefnogaeth fforddiadwy hon. Ar gyfradd sefydlog o 6% y flwyddyn, mae’r llog wedi’i gynllunio i fod yn fforddiadwy o’i gymharu â benthycwyr prif ffrwd eraill ac mae’r tymor benthyciad hyblyg o un i bum mlynedd yn rhoi’r gallu i’n cwsmeriaid reoli eu had-daliadau misol mewn ffordd sy’n gwneud y mwyaf o synnwyr iddyn nhw. Rhowch gynnig ar ein Cyfrifiannell Benthyca i gyfrifo eich taliadau misol posib a chyfanswm yr ad-daliadau.

    Oes yna unrhyw ffioedd ynghlwm â gwneud cais am Start Up Loan?

    Na, nid oes unrhyw ffioedd ynghlwm â gwneud cais am Start Up Loan neu ei dderbyn, na ffioedd am y gefnogaeth a ddarparwn yn ystod ac ar ôl y broses o wneud cais. Ar wahan i’r ad-daliadau misol, ni ofynnir i chi am unrhyw ffioedd neu daliadau eraill.

    Beth yw'r gwahaniaeth rhwng benthyciad wedi'i warantu a benthyciad heb ei warantu?

    Benthyciad wedi’i warantu yw benthyciad sydd angen gwarantwr neu ased, er enghraifft eiddo (a elwir hefyd yn sicrwydd) i ddiogelu’r benthyciad. Os na ellir ad-dalu benthyciad wedi’i warantu, gall y cwmni a roddodd y benthyciad gymryd meddiant o’r eiddo neu alw ar y gwarantwr i fodloni’r balans sy’n ddyledus.

    Mewn cyferbyniad gellir cael, benthyciadau heb eu gwarantu – fel Start Up Loans – heb ddefnyddio gwarantwr neu sicrwydd ar gyfer y benthyciad. Fodd bynnag, cofiwch fod yna rhwymedigaeth gytundebol arnoch i ad-dalu eich Start Up Loan, ni waeth beth fo’r amgylchiadau. Gallai methu â thalu eich ad-daliadau misol arwain at gymryd camau ffurfiol, a fydd yn effeithio’n niweidiol ar eich ffeil gredyd, felly mae’n bwysig siarad â’ch Partner Cyllid cyn gynted â phosibl os credwch y gallech wynebu unrhyw anawsterau.

    Bydd manylion eich Partner Cyllid ar eich cytundeb benthyciad ar ôl i’ch cais gael ei gymeradwyo.

    Oes yna unrhyw reolau yn ymwneud â sut rwy’n gwario’r arian?

    Mae Start Up Loans yn fenthyciadau personol a ddefnyddir i ddechrau busnes newydd neu i dyfu busnes sydd eisoes yn bodoli sydd wedi bod yn masnachu am lai na 24 mis. Gallwch wario’ch benthyciad ar ystod eang o bethau sy’n gysylltiedig â’ch busnes, fel offer a stoc, adeiladau, costau marchnata a hyrwyddo i enwi ond ychydig. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod yn rhaid i chi allu disgrifio’ch bwriadau ar gyfer eich benthyciad o fewn eich cynllun busnes a’ch rhagolwg llif arian ac egluro sut y bydd hyn yn eich helpu i ddechrau a/neu dyfu eich busnes.

    Mae yna ychydig o weithgareddau na ellir eu hariannu gyda Start Up Loan, gan gynnwys ad-dalu dyledion, cymwysterau hyfforddi a rhaglenni addysg neu gyfleoedd buddsoddi nad ydyn nhw’n rhan o fusnes cynaliadwy parhaus. Gweler ein meini prawf cymhwystra llawn i gael rhagor o wybodaeth ar fathau o fusnesau sydd wedi’i heithrio a defnyddiau wedi’u heithrio dan y cynllun.

    Faint o Start Up Loans allaf wneud cais amdanynt o dan y cynllun?

    Dim ond ar gyfer un busnes y gall pob unigolyn wneud cais am Start Up Loan, felly os ydych chi’n berchen ar fentrau busnes lluosog dim ond ar gyfer un ohonynt y byddwch chi’n gallu cael cyllid. Fodd bynnag, ar ôl sicrhau Start Up Loan os bydd angen cyllid ychwanegol arnoch yn ddiweddarach er mwyn tyfu a datblygu’r un busnes, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am Ail Fenthyciad. Byddai rhaid i chi wneud cais newydd ac wedi gwneud o leiaf chwe mis o ad-daliadau llawn cyn gwneud cais. Yn ogystal, ni all y cyfanswm sy’n weddill ar eich benthyciad fod yn fwy na £25,000 ar unrhyw un adeg. Ewch i’n tudalen am Ail Fenthyciadau i gael mwy o wybodaeth ar y meini prawf cymhwystra llawn a sut i wneud cais.

    A fydd gwneud cais am Start Up Loan yn cael effaith ar fy hawl i fudd-daliadau gwladol?

    Yn anffodus, nid ydym yn gallu rhoi cyngor ar hawl i fudd-daliadau gwladol. Siaradwch gyda’ch Canolfan Byd Gwaith am wybodaeth.

    A fydd The Start Up Loans Company yn rhoi’r benthyciad i mi’n uniongyrchol?

    The Start Up Loans Company sy’n gweinyddu’r cynllun, ond nid yw’n rhoi benthyciadau i ymgeiswyr yn uniongyrchol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich Cytundeb Benthyg a’r benthyciad yn cael eu darparu i chi gan naill ai eich Partner Cyflenwi neu un o’n Partneriaid Cyllid. Y partner sy’n dosbarthu’ch benthyciad fydd eich prif bwynt cyswllt ar gyfer trafod telerau eich benthyciad ac unrhyw faterion eraill sy’n gysylltiedig â’ch ad-daliadau misol.

    A oes gan The Start Up Loans Company gynnig sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia?

    Oes, mae gennym gynnyrch ariannol sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia, a weinyddir yn annibynnol trwy ein Partner Cyflenwi, Financing Sharia Enterprise. Ewch i’n tudalen cyllid sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia am ragor o wybodaeth.

    Cymhwystra

      A yw pob math o fusnes yn gymwys i gael Start Up Loan?

      Mae Start Up Loans wedi’u cynllunio i’w defnyddio i ddechrau busnes newydd neu i dyfu busnes sydd wedi bod yn masnachu am lai na 24 mis. Er ein bod yn gallu cefnogi’r rhan fwyaf o wahanol fathau o fusnesau, mae yna ychydig na allwn eu cefnogi. Ewch i’n tudalen cymhwystra i gael rhestr lawn o’r busnesau sydd wedi’u heithrio

      A allaf wneud cais am fenthyciad os oes gennyf gredyd gwael?

      Nid yw credyd gwael o reidrwydd yn rhwystr i gael Start Up Loan, fodd bynnag rydym yn gwneud gwiriad credyd llawn ar bob ymgeisydd. Mae The Start Up Loans Company wedi ymrwymo i fenthyca cyfrifol ac mae rhaid i ni sicrhau bod ymgeiswyr yn gallu ad-dalu’r benthyciad.

      Ni allwch gael Start Up Loan os:

      • Rydych yn gwneud cais am fethdaliad neu’n fethdalwr ar hyn o bryd neu ar Orchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO)
      • Mae gennych Gytundeb Gwirfoddol Unigol (IVA) neu Weithred Ymddiriedolaeth (Trust Deed) gyfredol
      • Rydych ar Raglenni Rheoli Dyled neu Gynlluniau Trefniant Dyled (DAS)

      Am y manylion llawn, gweler ein tudalen ar wiriadau credyd.

      Rwyf ar Orchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO), a allaf wneud cais?

      Os ydych ar Orchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO), rydych yn destun cyfyngiadau o ran sefydlu a hyrwyddo busnes a gweithredu fel cyfarwyddwr. Gallai’r cyfyngiadau hyn ei gwneud yn anodd i chi lansio eich busnes a, felly, i ad-dalu’r benthyciad a gymerwyd ar gyfer y busnes hwnnw.

      Mae The Start Up Loans Company a’i Bartneriaid Cyflenwi yn fenthycwyr cyfrifol sydd wedi ymrwymo i sicrhau nad ydym yn cymhlethu unrhyw faterion credyd sydd gan ymgeiswyr trwy gynyddu eu dyled ariannol. Ni allwn felly gefnogi unigolion nes eu bod wedi’u rhyddhau o’r DRO sydd ar waith.

      Am y manylion llawn, darllenwch ein tudalen ar wiriadau credyd.

      Mae gen i Gynllun Rheoli Dyled (DMP), a allaf wneud cais?

      Yn anffodus, ni allwn ystyried eich cais nes eich bod wedi ad-dalu’r dyledion hyn yn llawn. Mae The Start Up Loans Company wedi ymrwymo i fenthyca cyfrifol ac ni fyddwn yn benthyg mewn amgylchiadau pan fyddai gwneud hynny’n arwain at fwy o ddyled i’r ymgeisydd.

      Am y manylion llawn, gweler ein tudalen ar wiriadau credyd.

      Pam nad ydych yn benthyg i bobl sydd â mathau penodol o broblemau credyd?

      Mae The Start Up Loans Company a’i Bartneriaid Cyflenwi wedi ymrwymo i fod yn fenthycwyr cyfrifol ac mae’n bwysig i ni nad ydym yn cymhlethu unrhyw faterion credyd presennol a allai fod gan ymgeiswyr trwy gynyddu eu dyled ariannol.

      Am y manylion llawn, gweler ein tudalen ar wiriadau credyd.

      A allaf wneud cais am fenthyciad os ydw i’n cael budd-daliadau gwladol?

      Nid yw cael budd-daliadau gwladol o reidrwydd yn eich eithrio rhag gwneud cais am Start Up Loan ond ni allwn ddarparu arweiniad unigol ar hawl i fudd-daliadau gwladol. Siaradwch gyda’ch Canolfan Byd Gwaith am wybodaeth.

      Ydw i’n gymwys i wneud cais os ydw i’n prynu busnes sydd eisoes yn bodoli?

      Ydych, rydych yn dal yn gymwys i wneud cais am Start Up Loan os ydych yn prynu busnes sydd eisoes yn bodoli, hyd yn oed os yw wedi bod yn masnachu am fwy na dwy flynedd o dan berchnogaeth wahanol, ar yr amod nad ydych yn bersonol wedi bod yn berchen ar y busnes am fwy na dwy flynedd. Yn yr achos hwn, bydd gofyn i chi fod wedi dod o hyd i gopi o’r cyfrifon ariannol ar gyfer y busnes a bydd angen i chi ddarparu’r rhain gyda’ch cais. Sylwch: os oedd y busnes yn flaenorol yn gweithredu ar golled, neu’n gwneud hynny ar hyn o bryd, bydd disgwyl i chi fynd i’r afael â’r mater hwn yn uniongyrchol yn eich cynllun busnes.

      Sut ydw i'n gwybod am ba mor hir mae fy musnes wedi bod yn masnachu?

      At ddibenion gwneud cais am Start Up Loan, diffinnir masnachu fel busnes sy’n cyflawni gweithgareddau fel prynu a gwerthu nwyddau, cynnal masnach neu broffesiwn, darparu gwasanaethau neu fod yn cynhyrchu refeniw yn gyson. Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf hyn, nid ydych yn debygol o gael eich ystyried fel busnes sy’n masnachu. Sylwch: os ydych wedi gwneud cyfnodau o brofi marchnad ad hoc neu wedi ysgwyddo treuliau ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn cynhyrchu refeniw, ni fydd y cyfnodau hyn yn cael eu cynnwys yng nghyfanswm eich amser masnachu. Cofiwch: i fod yn gymwys i gael Start Up Loan, ni allwch fod wedi bod yn masnachu am fwy na 24 mis. Gweler ein tudalen meini prawf cymhwystra i gael rhagor o wybodaeth neu cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr.

      Mae gen i fisa, a allaf wneud cais?

      Mae’n dibynnu ar eich fisa. Mae yna ystod o fisâu sy’n cyfyngu ar allu unigolyn i weithio yn y DU, p’un a yw’n seiliedig ar nawdd, nifer yr oriau neu’r hawl i fod yn hunangyflogedig. Byddai’r mathau canlynol o fisau yn eich rhwystro rhag gwneud cais am Start Up Loan:

      • Fisa Haen 1 (pob categori)
      • Fisa Haen 2 (pob categori)
      • Fisa Myfyriwr Haen 4 (Cyffredinol)
      • Fisa Haen 5 (gweithiwr dros dro)
      • Gweithwyr Domestig ar fisa Aelwyd Breifat
      • Cynrychiolydd fisa Busnes Tramor

      Er mwyn osgoi amheuaeth, mae unigolion ar Fisa Llinach (Ancestry) yn gymwys o dan y cynllun, fel y mae unigolion sydd â fisa â chyfyngiad sy’n nodi “dim hawl i arian cyhoeddus” ar yr amod nad yw’r cyfyngiadau hynny’n dod o dan y gwaharddiadau uchod.

      Os ydych yn ansicr a yw’ch fisa yn gymwys o dan y cynllun, cyfeiriwch at wefan y Llywodraeth i gael mwy o wybodaeth am y math o fisa sydd gennych.

      Sylwch: os yw eich math o fisa yn cyd-fynd â’n meini prawf cymhwysedd, bydd gofyn i chi sicrhau y bydd tymor y benthyciad y gofynnwch amdano yn eich cais yn eich galluogi i gwblhau’ch ad-daliadau benthyciad yn llawn o leiaf 6 mis cyn i’ch fisa ddod i ben. Er enghraifft, os ydych ar fisa pedair blynedd, yna uchafswm tymor y benthyciad y gallem ei gynnig i chi fyddai 3.5 mlynedd gan y byddai angen i chi fod wedi ad-dalu’r benthyciad yn llawn 6 mis cyn i’ch fisa ddod i ben.

      Ydw i’n gymwys i wneud cais os ydw i’n fyfyriwr rhyngwladol sy’n byw yn y DU?

      Mae’n dibynnu ar eich fisa. Os oes gennych fisa Haen 4, yn anffodus nid ydych yn gymwys i wneud cais am Start Up Loan gan fod gweithio’n hunangyflogedig wedi’i eithrio o dan y fisa hon. Yn yr un modd, os oes gennych fisa Haen 1 (Entrepreneur Graddedig), nid ydych yn gymwys i gael Start Up Loan gan nad yw hyd eich fisa yn cyd-fynd â’n hisafswm tymor benthyciad.

      Mae fy musnes yn allforio nwyddau’n rhyngwladol. Ydw i dal yn gymwys i wneud cais?

      Ydych, yn amodol ar dri ffactor craidd.

      1. Rhaid i’ch busnes fod yn gwmni sydd wedi’i gofrestru yn y DU a/neu’n gofrestredig yn y DU at ddibenion treth.
      2. Rhaid i ochr gweithredol eich busnes fod wedi’i leoli yn y DU.
      3. Rhaid i’r rhan fwyaf o’r refeniw a gynhyrchir gan eich busnes hefyd aros yn y DU

      A oes rhaid i fy musnes gael ei gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau neu CThEM cyn i mi wneud cais?

      Na, nid oes rhaid i’ch cwmni fod wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau na CThEM cyn i chi wneud cais am Start Up Loan.

      A fydd fy mhartner busnes yn gallu gwneud cais hefyd?

      Bydd, gall partneriaid busnes lluosog o’r un busnes wneud cais unigol am Start Up Loan. Gallwn fenthyg hyd at uchafswm o £100,000 i unrhyw fusnes unigol, sy’n golygu y gall hyd at bedwar partner busnes fenthyg uchafswm o £25,000 yr un. Sylwch: rhaid i’r holl bartneriaid busnes wneud cais trwy’r un Partner Cyflenwi.

      A allaf ychwanegu fy mhartner busnes at fy nghais?

      Ni allwch ychwanegu eich partner busnes at eich cais gan fod angen i bob ymgeisydd wneud cais yn unigol, hyd yn oed os yw’r arian yn cael ei fuddsoddi yn yr un busnes. Mae hyn oherwydd bod Start Up Loans yn fenthyciadau personol at ddibenion busnes, ac felly rydym yn gwneud amrywiaeth o wiriadau sy’n gysylltiedig â’ch gallu unigol i fforddio ac ad-dalu eich benthyciad. Fodd bynnag, gallwch gyflwyno’r un cynllun busnes a rhagolwg llif arian fel rhan o’ch ceisiadau.

      Mae gennyf bartner busnes. Ydy’r gwiriad busnes yn cael ei wneud o dan enwau ni’n dau?

      Na, oherwydd bod Start Up Loans yn fenthyciadau personol a fuddsoddir mewn busnes, mae’r gwiriad credyd yr ydym yn ei wneud yn seiliedig ar bob ymgeisydd unigol.

      Y Broses o Wneud Cais

        Nid oes gennyf syniad busnes eto. A allaf barhau i wneud cais am Start Up Loan?

        Yn anffodus, mae’r cynllun Start Up Loans wedi’i gynllunio i gynorthwyo pobl i ddechrau neu dyfu eu busnes, felly er nad oes angen i chi fod yn masnachu er mwyn bod yn gymwys i gael benthyciad, bydd angen i chi gael syniad busnes er mwyn gwneud eich cais.

        Fel rhan o’r broses o wneud cais, bydd angen i chi gyflwyno cynllun busnes a rhagolwg llif arian. Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi cwblhau’r rhain eto – ar ôl i chi gofrestru’ch manylion a chael eich paru ag un o’n Partneriaid Cyflenwi am gefnogaeth, gall cynghorydd busnes roi arweiniad i chi ar gwblhau’r dogfennau hyn. Rydym hefyd yn cynnig detholiad o ganllawiau defnyddiol a allai fod o gymorth wrth i chi ddechrau arni.

        Rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais ar yr adeg y bydd y cyllid yn eich helpu i lansio’ch busnes a phan fydd gennych yr amser i fuddsoddi mewn creu eich dogfennau busnes. Os mai dim ond gwasanaeth cymorth ymgynghorol sydd gennych ddiddordeb ynddo ar hyn o bryd, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio offeryn cymorth busnes Llywodraeth y DU neu’n cysylltu â’r Llinell Gymorth Cymorth Busnes ar 0800 998 1098. Efallai y bydd y naill neu’r llall o’r rhain yn gallu eich cyfeirio at wasanaeth addas arall.

        Mae gennyf syniad busnes neu mae fy musnes eisoes yn masnachu. A allaf wneud cais am Start Up Loan?

        Gallwch, gall y cynllun Start Up Loans gefnogi unigolion sy’n dechrau busnesau newydd neu unigolion sydd â busnesau sy’n bodoli eisoes, ar yr amod nad ydyn nhw wedi bod yn masnachu am fwy na dwy flynedd.

        Fel rhan o’r broses o wneud cais bydd angen i chi gyflwyno cynllun busnes a rhagolwg llif arian. Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi cwblhau’r rhain eto – ar ôl i chi gofrestru’ch manylion a chael eich paru ag un o’n Partneriaid Cyflenwi am gefnogaeth, gall cynghorydd busnes roi arweiniad i chi ar gwblhau’r dogfennau hyn. Rydym hefyd yn cynnig detholiad o ganllawiau defnyddiol a allai fod o gymorth wrth i chi ddechrau arni.

        Rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais ar yr adeg y bydd y cyllid yn eich helpu i lansio’ch busnes a phan fydd gennych yr amser i fuddsoddi mewn creu eich dogfennau busnes.

        Os mai dim ond gwasanaeth cymorth ymgynghorol sydd gennych ddiddordeb ynddo ar hyn o bryd, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio offeryn cymorth busnes Llywodraeth y DU neu’n cysylltu â’r Llinell Gymorth Cymorth Busnes ar 0300 456 3565. Efallai y bydd y naill neu’r llall o’r rhain yn gallu eich cyfeirio at wasanaeth addas arall.

        A godir tâl am wneud cais?

        Na, ni fyddwn ni na’n Partneriaid Cyflenwi yn codi tâl am wneud cais am Start Up Loan. Ni chodir tâl chwaith am y cymorth a roddir yn ystod ac ar ôl y broses o wneud cais. Yr unig swm fydd rhaid i chi ei dalu yw eich ad-daliadau misol os yw eich cais yn llwyddiannus. Os gofynnir i chi wneud unrhyw fath o daliad i The Start Up Loans Company ar wahân i’r ad-daliadau misol y cytunwyd arnynt, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.

        Pa mor hir mae’r broses o wneud cais yn ei gymryd?

        Mae pob busnes yn wahanol, felly ni allwn roi cyfnod cyfartalog o amser ar gyfer pa mor hir fydd eich cais yn ei gymryd. Gall ceisiadau gan gwsmeriaid sy’n barod iawn gymryd cyn lleied â dwy i dair wythnos, tra bod angen mwy o gefnogaeth ar gwsmeriaid eraill i gwblhau’r dogfennau angenrheidiol a gallant gymryd dau i dri mis a mwy. Rydym yn ceisio eich rhoi chi mewn rheolaeth o’r broses cymaint â phosib, felly po fwyaf parod ydych chi, y cyflymaf fydd y cais yn mynd rhagddo.

        Os oes gennych fersiwn derfynol neu ddrafft o’ch cynllun busnes a’ch rhagolwg llif arian wedi’u cwblhau ar adeg cyflwyno’ch cais, bydd yn haws i’ch Partner Cyflenwi gael syniad o faint o gefnogaeth yr ydych ei angen er mwyn prosesu eich cais. Sylwch: mae ein tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid a’n Partneriaid Cyflenwi yn ymdrechu i ymateb i’r holl ymholiadau gan gwsmeriaid o fewn pum diwrnod gwaith.

        Pa ffactorau ydych yn eu hystyried wrth asesu ceisiadau?

        Mae tri phrif faes y bydd eich Cynghorydd Busnes yn eu hystyried wrth adolygu’ch cais am Start Up Loan: eich teilyngdod credyd, p’un a allwch fforddio cymryd y benthyciad ai peidio, ac a yw eich busnes yn hyfyw.

        Teilyngdod credyd: Fel rhan o’ch cais, bydd gofyn i chi gael gwiriad credyd sy’n adolygu eich ymddygiad ariannol blaenorol a chyfredol. Er na fydd hanes credyd gwael yn eich atal rhag sicrhau Start Up Loan ym mhob achos, mae’r rhan hon o’r broses ymgeisio yn rhan o’n hymrwymiad i fenthyca cyfrifol ac yn ein helpu i sicrhau nad yw ein hymgeiswyr yn gorlwytho eu hunain.

        Fforddiadwyedd personol: Gan mai benthyciadau personol a ddefnyddir at ddibenion busnes yw Start Up Loans, byddwch yn atebol am ad-dalu’ch benthyciad hyd yn oed os bydd eich cynlluniau busnes yn newid yn y dyfodol. Er nad yw Start Up Loans wedi’u gwarantu (nid oes rhaid i chi gyflwyno unrhyw sicrwydd i warantu’r benthyciad) bydd angen i chi ad-dalu’r benthyciad yn llawn ac unrhyw log sy’n ddyledus yn ystod y tymor benthyciad y cytunwyd arno. Mae’r Gyllideb Oroesi Bersonol sy’n amlinellu’ch ffynonellau incwm personol allweddol ac unrhyw dreuliau yr ydych yn eu hwynebu bob mis, y mae’n rhaid i chi ei chyflwyno gyda’ch cais, yn ein cefnogi i wneud yr asesiad hwn.

        Hyfywedd y busnes: Ffactor allweddol yn ein penderfyniad benthyca yw sicrhau bod eich busnes yn mynd i gynhyrchu digon o arian i’ch helpu chi i dalu’ch ad-daliadau benthyciad misol. Er mwyn ein helpu i asesu hyn, mae angen i chi ddangos bod yna ddigon o alw am eich cynnyrch (cynhyrchion) a/neu wasanaeth(au) ac y byddwch yn gallu cyflawni’r holl nodau a nodir yn eich Cynllun Busnes a’ch Rhagolwg Llif Arian yn rhesymol. Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi creu’r dogfennau hyn o’r blaen! Edrychwch ar ein templedi a chanllawiau rhad ac am ddim a chofiwch y bydd eich Cynghorydd Busnes yn gallu darparu cefnogaeth trwy gydol y rhan hon o’r broses.

        Oes yna unrhyw gefnogaeth ar gael yn ystod y broses o wneud cais?

        Oes, mae ein Partneriaid Cyflenwi wrth law i’ch cefnogi chi trwy’r broses o wneud cais. Gallant roi cyngor i chi ar lenwi’r ffurflenni cais a pha wybodaeth fydd angen i chi ei chynnwys. Gallant hefyd eich helpu i greu eich cynllun busnes, rhagolwg llif arian a chyllideb goroesi bersonol, p’un a oes angen cymorth arnoch i greu’r rhain o’r dechrau neu ddim ond eisiau i rywun edrych drostynt a’u gwirio.

        Gan y bydd eich Partner Cyflenwi hefyd yn asesu’ch cais am fenthyciad i benderfynu a ydych chi’n gymwys i gael Start Up Loan ai peidio, bydd eu cefnogaeth yn canolbwyntio ar eich rhoi yn y sefyllfa orau bosibl i lwyddo. Mae’n bwysig cofio mai chi sy’n gyfrifol am eich cais yn y pen draw ac er y bydd Partner Cyflenwi yn gwneud ei orau i’ch cefnogi, nid yw hyn yn gwarantu y byddwch yn gymwys i gael y benthyciad.

        Am ragor o wybodaeth, gweler ein hadran cwestiynau cyffredin am gymorth busnes a mentora.

        Pwy fydd yn adolygu fy nghais ac yn penderfynu a allaf gael Start Up Loan?

        Bydd eich Partner Cyflenwi yn adolygu eich cais ac yn gwneud penderfyniad am y benthyciad. Rydym yn darparu cyfres o feini prawf i bob Partner Cyflenwi i sicrhau bod dull cyson yn cael ei ddilyn ar draws ein rhwydwaith, ond yn y pen draw bydd Partneriaid Cyflenwi yn seilio eu penderfyniad ar hanes credyd, fforddiadwyedd personol a hyfywedd cynllun busnes yr unigolyn.

        Pam allai fy nghais gael ei wrthod?

        Mae yna nifer o resymau pam y gallai eich cais gael ei wrthod. Fel benthyciwr cyfrifol, mae yna ddau faen prawf allweddol rydym yn eu defnyddio wrth benderfynu a allwn fenthyg i ymgeisydd. Mae’r cyntaf yn ymwneud â fforddiadwyedd unigolyn (a fyddwch chi’n gallu ymrwymo i’r ad-daliadau gofynnol?), mae’r ail yn ymwneud â hyfywedd cynlluniau busnes a rhagolwg llif arian yr ymgeisydd (a fyddwch chi’n gallu cyflawni’r holl nodau rydych chi wedi’u nodi yn eich cynlluniau yn rhesymol ac a oes marchnad ddigonol i’ch syniad chi?).

        A allaf ail-ymgeisio os yw fy nghais yn cael ei wrthod?

        Yn anffodus, os yw eich cais yn cael ei wrthod, bydd rhaid i chi aros am o leiaf chwe mis cyn y gallwch ail-ymgeisio. Mae’r cyfnod hwn wedi’i gynllunio i roi amser i chi adolygu a gwella unrhyw feysydd o’ch cais a oedd yn eich atal rhag sicrhau Start Up Loan o’r blaen.

        Os ydych yn penderfynu ail-ymgeisio, bydd angen i chi gysylltu â’r Partner Cyflenwi gwreiddiol a adolygodd eich cais cyntaf. Bydd y Partner Cyflenwi yn ail-asesu eich cais. Y rheswm rydym ni’n gofyn i chi weithio gyda’r un Partner Cyflenwi yw oherwydd bod ganddo wybodaeth fanwl eisoes o’ch busnes a’ch sefyllfa bersonol.

        Fel rhan o’r ailasesiad hwn, bydd angen i chi allu dangos i’ch Partner Cyflenwi bod eich amgylchiadau wedi newid neu eich bod wedi mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn eich llythyr gwrthod cyntaf. Efallai bydd gofyn i chi hefyd gyflwyno dogfennau personol a busnes wedi’u diweddaru a mynd trwy unrhyw wiriadau sy’n ofynnol gan y cynllun.

        A oes angen cyfrif banc busnes arnaf i gael y benthyciad hwn?

        Nag oes, a hyd yn oed os oes gennych gyfrif banc busnes, ni fyddwn yn gallu talu eich Start Up Loan i mewn i’r cyfrif hwnnw. Gan fod Start Up Loan yn fenthyciad personol, bydd angen i chi roi manylion eich cyfrif banc personol i gael eich Start Up Loan os yw eich cais yn llwyddiannus.

        Rwyf wedi gwneud cais am Start Up Loan, ond heb glywed unrhyw beth eto?

        Os na chysylltwyd â chi o fewn dau ddiwrnod gwaith, cysylltwch â’n tîm Gwasanaeth Cwsmer, gan ddarparu eich manylion cyswllt fel y gallwn eich cefnogi i symud ymlaen.

        A allaf atal y broes ar unrhyw adeg cyn i mi gael y benthyciad?

        Gallwch, gallwch dynnu eich cais yn ôl ar unrhyw adeg cyn i chi gael y benthyciad. Ar ôl i chi gael y benthyciad, mae yna gyfnod ail-feddwl o 14 diwrnod o’r dyddiad yr arwyddwch eich Cytundeb Benthyciad. Os penderfynwch yn ystod y cyfnod ail-feddwl nad ydych eisiau eich benthyciad mwyach, gallwch ddychwelyd yr arian ac ni fyddwch yn atebol am unrhyw ran o’r llog yr ydych wedi’i gronni. Cyfeiriwch at eich Cytundeb Benthyciad i gadarnhau manylion eich cyfnod ailfeddwl. Sylwch: ar ôl i’r cyfnod ail-feddwl fynd heibio, bydd rhaid i chi ad-dalu swm llawn y benthyciad, gan gynnwys y llog i gyd.

        Gwiriadau Credyd

          Beth yw gwiriad credyd?

          Gwiriad credyd yw adolygiad o’ch ymddygiad ariannol blaenorol a phresennol sy’n ystyried unrhyw gredyd a gofnodwyd yn erbyn eich enw (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gardiau credyd, biliau cyfleustodau, contractau ffôn symudol a morgeisi). Fel benthyciwr cyfrifol, mae The Start Up Loans Company yn gwneud gwiriadau credyd er mwyn osgoi cynyddu dyled ariannol a allai orlwytho benthyciwr unigol.

          Pwy sy’n gwneud gwiriadau credyd?

          Os ydych yn gwneud cais am Start Up Loan, fel rhan o’r broses ymgeisio, byddwn yn gwneud gwiriad credyd ar eich rhan, ar yr amod eich bod wedi rhoi eich caniatâd yn unol â’n Polisi Preifatrwydd a Rhannu Data.

          Sylwch: ar ôl i wiriad credyd gael ei wneud, nid yw ein tîm yn gallu trafod manylion penodol o’ch adroddiad credyd gyda chi. Os oes gennych bryderon ynghylch eich hanes credyd, bydd angen i chi gysylltu ag Asiantaeth Gwirio Credyd i ofyn am gopi o’ch Adroddiad Credyd a mynd i’r afael ag unrhyw bryderon gyda nhw’n uniongyrchol.

          Isod mae rhestr o’r tair prif Asiantaeth Gwirio Credyd sy’n gweithredu yn y DU ar hyn o bryd ond sylwch, efallai y codir ffi fach arnoch os dewiswch wneud hyn. Mae hefyd yn bwysig cofio nad yw Asiantaethau Gwirio Credyd bob amser yn cadw’r un wybodaeth ar ffeil, felly efallai yr hoffech ymgynghori â mwy nag un os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cynnwys eich Adroddiad Credyd personol.

          CallCredit contact details

          Ffôn: 0870 0601414
          Ymweld â’r wefan

          Equifax PLC contact details

          Ffôn: 0870 010 0583
          Ymweld â’r wefan

          Experian contact details

          Ffôn: 0844 4818000
          Ymweld â’r wefan

          A yw’r gwiriad yn wiriad credyd personol neu’n wiriad credyd busnes?

          Benthyciadau personol yw Start Up Loans felly mae’r gwiriad credyd rydym yn ei wneud yn wiriad credyd personol.

          A fydd gwiriad credyd yn effeithio ar fy sgôr credyd?

          Pan fydd gwiriad credyd yn cael ei gwblhau fel rhan o’ch cais am Start Up Loan, mae’n gadael ‘ôl troed’ ar eich adroddiad credyd sy’n dangos eich bod wedi gwneud cais am gyllid. Gallai hyn effeithio ar eich sgôr credyd; fodd bynnag mae sgôr credyd unigolyn yn cynnwys llawer o wahanol ffactorau sy’n rhoi golwg gyfun o’ch ymddygiad ariannol (megis ceisiadau eraill am gredyd, unrhyw gredyd a sicrhawyd yn flaenorol a’ch hanes o wneud ad-daliadau credyd ac ati). Os bydd eich cais am Start Up Loan yn llwyddiannus bydd yn ymddangos ar eich Adroddiad Credyd personol, ynghyd ag unrhyw ad-daliadau a wnewch, am o leiaf chwe blynedd.

          Am ba mor hir mae gwiriad credyd yn ddilys?

          Bydd unrhyw wiriadau credyd sy’n cael eu cynnal fel rhan o’ch cais am Start Up Loan yn ddilys am gyfnod o dri mis yn unig. Os nad yw eich cais wedi’i gwblhau erbyn hynny, bydd rhaid i ni gynnal gwiriad credyd newydd. Yn y rhan fwyaf o achosion, cynhelir gwiriad credyd yn gynnar fel y gallwch fod yn hyderus ynghylch eich cymhwysedd i wneud cais am Start Up Loan cyn buddsoddi eich amser yng ngweddill y broses ymgeisio. Mae hyn yn golygu y bydd gennych hyd at dri mis i gwblhau eich dogfennau busnes a phersonol, fel eich Cynllun Busnes, Rhagolwg Llif Arian a’ch Cyllideb Oroesi Bersonol, a fydd yn sail i’r asesiad. Oherwydd hyn, rydym yn eich annog i feddwl yn ofalus am yr amser mwyaf priodol i ddechrau eich cais.

          A allaf wneud cais am Start Up Loan os oes gennyf hanes credyd gwael neu broblemau credyd?

          Ni fydd hanes credyd gwael o reidrwydd yn eich atal rhag sicrhau Start Up Loan; fodd bynnag, mae’n sicr yn ffactor a fydd yn cael ei ystyried fel rhan o’n proses asesu. Rydym wedi ymrwymo i fenthyca cyfrifol ac, fel rhan o hyn, rydym yn adolygu ymddygiad ariannol blaenorol pob ymgeisydd a’i allu presennol i fforddio’r benthyciad.

          Am y rheswm hwn, ni allwn fenthyg i unigolion â rhai problemau credyd. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig, i’r canlynol:

          • Rydych yn gwneud cais am fethdaliad neu’n fethdalwr ar hyn o bryd neu ar Orchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO)
          • Mae gennych Gytundeb Gwirfoddol Unigol (IVA) neu Weithred Ymddiriedolaeth (Trust Deed) gyfredol
          • Rydych ar Raglenni Rheoli Dyled neu Gynlluniau Trefniant Dyled (DAS)

          Sylwch: mae The Start Up Loans Company yn asesu pob cais yn ôl ei deilyngdod ei hun ac yn cadw’r hawl i wrthod ceisiadau am resymau eraill sy’n gysylltiedig â chredyd, yn enwedig mewn achosion lle mae benthyca yn debygol o gynyddu dyled ariannol a allai orlwytho unigolyn.

          Os yw unrhyw un o’r uchod yn berthnasol i chi, neu os ydych chi’n poeni am eich hanes credyd, gallwch adolygu’ch Adroddiad Credyd trwy ymgynghori ag Asiantaeth Gwirio Credyd. Isod mae rhestr o’r tair prif Asiantaeth Gwirio Credyd sy’n gweithredu yn y DU ar hyn o bryd ond sylwch, efallai y codir ffi fach arnoch os dewiswch wneud hyn.

          Mae hefyd yn bwysig cofio nad yw Asiantaethau Gwirio Credyd bob amser yn cadw’r un wybodaeth ar ffeil, felly efallai yr hoffech ymgynghori â mwy nag un os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cynnwys eich Adroddiad Credyd personol.

          CallCredit

          Ffôn: 0870 0601414
          Ymweld â’r wefan

          Equifax PLC

          Ffôn: 0870 010 0583
          Ymweld â’r wefan

          Experian

          Ffôn: 0844 4818000
          Ymweld â’r wefan

          Gallwch hefyd gysylltu â Chyngor ar Bopeth neu’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol am gyngor am ddim ar sut i wella eich cofnod credyd.

          Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am wiriadau credyd neu wneud cais am Start Up Loan, cysylltwch â’n tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid.

          Cymorth Busnes a Mentora

            Pa gymorth sydd ar gael i mi tra fy mod yn mynd trwy’r broses gwneud cais?

            Mae ein Partneriaid Cyflenwi ar gael i’ch cefnogi trwy’r broses gwneud cais. Gallant roi cyngor i chi ar lenwi’r ffurflenni cais a pha wybodaeth fydd angen i chi ei chynnwys. Gallant hefyd eich helpu i greu eich cynllun busnes, rhagolwg llif arian a chyllideb goroesi bersonol, p’un a oes angen cymorth arnoch i greu’r rhain o’r dechrau neu ddim ond eisiau i rywun edrych drostynt a’u gwirio.

            Gan y bydd eich Partner Cyflenwi hefyd yn asesu’ch cais am fenthyciad i benderfynu a ydych chi’n gymwys i gael Start Up Loan ai peidio, bydd eu cefnogaeth yn canolbwyntio ar eich rhoi yn y sefyllfa orau bosibl i lwyddo. Mae’n bwysig cofio mai chi sy’n gyfrifol am eich cais yn y pen draw ac er y bydd Partner Cyflenwi yn gwneud ei orau i’ch cefnogi, nid yw hyn yn gwarantu y byddwch yn gymwys i gael y benthyciad.

            A ydych yn gallu cynnig cymorth gyda drafftio fy nghynllun busnes a rhagolwg llif arian?

            Ydym, bydd eich Partner Cyflenwi yn gallu eich helpu gyda hyn. Lle bo modd, rydym yn eich annog i geisio drafftio’ch cynlluniau yn gyntaf, gan ddefnyddio ein templedi am ddim, gan y bydd hyn yn helpu’ch Partner Cyflenwi i gael gwell dealltwriaeth ohonoch chi a’ch busnes. Ond peidiwch â phoeni, os nad ydych wedi gwneud hyn o’r blaen ac eisiau ychydig o arweiniad cyn dechrau arni, mae hynny’n hollol iawn.

            Pa gymorth y byddaf yn ei gael os yw fy nghais yn llwyddiannus?

            Unwaith y byddwch wedi cael eich Start Up Loan, byddwch yn cael cynnig mentora 1:1. Mae gennych hawl i 15 awr o fentora am ddim yn ystod 12 mis cyntaf tymor eich benthyciad, ond chi a’ch mentor fydd yn penderfynu pa mor aml rydych chi’n dal i fyny. Yn ogystal â chymorth mentora, bydd gennych hawl hefyd i gael mynediad at ystod o gynigion busnes arbennig gan ein Partneriaid Corfforaethol, gan gynnwys gostyngiadau, cyfraddau llai a rhoddion am ddim ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau busnes blaenllaw.

            Beth yw mentor a sut y bydd o fudd i mi?

            Mentor yw unigolyn profiadol a fydd yn gallu rhoi cymorth ac arweiniad i chi wrth i chi fynd ati i ddatblygu eich busnes. Er ei fod yn amser cyffrous, gall dechrau busnes hefyd fod yn unig ac yn llethol, yn enwedig yn y camau cynnar, felly gall fod yn fuddiol iawn cael rhywun â phrofiad, arbenigedd a phersbectif gwahanol i siarad â nhw. Ni fydd mentor yn dweud wrthych sut i redeg eich busnes; yn hytrach bydd yn eich cynorthwyo i ddysgu sut i wneud cynlluniau a strategaethau a fydd yn eich galluogi i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer eich busnes. Dysgu mwy am ein rhaglen fentora.

            Sut bydd y cymorth mentora yn cael ei gyflwyno?

            Mae i fyny i chi a’ch mentor i benderfynu yn seiliedig ar yr hyn sy’n gweithio i’r ddau ohonoch. Mae rhai o’n cwsmeriaid yn cael mentora wyneb yn wyneb, yn cyfarfod mewn lleoliad allanol fel caffi, tra bod eraill yn hapus i gael galwad ffôn, cael cynhadledd fideo (trwy Skype neu blatfform arall) neu’n gohebu trwy e-bost. Gallwch drafod hyn gyda’ch mentor yn eich sesiwn gyntaf. Sylwch: ni ellir sicrhau y bydd mentora wyneb yn wyneb ar gael ym mhob achos.

            A oes rhaid i mi gael mentora er mwyn cael Start Up Loan?

            Na, nid oes rhaid i chi gael mentora. Fodd bynnag, rydym yn argymell yn gryf bod pawb sy’n cael benthyciad yn cymryd rhan mewn mentora, gan fod y rhan fwyaf o astudiaethau’n dangos cysylltiad cadarnhaol rhwng goroesiad busnes ac ymgysylltu â chymorth mentora. Gallwch ddewis faint o gefnogaeth fydd yn gweithio orau i chi a pha mor aml rydych eisiau cwrdd â’ch mentor. Rydym yn deall weithiau bod bywyd a busnes yn brysur, ond peidiwch â thanbrisio pa mor bwerus all yr arweiniad a’r cymorth yma fod.

            Faint o gymorth allaf ofyn i fy mentor amdano?

            Mae gennych hawl i 15 awr o fentora 1:1 yn ystod 12 mis cyntaf tymor eich benthyciad.

            A fyddaf yn parhau i gael cymorth os byddaf yn methu ag ad-dalu’r benthyciad?

            Byddwch, os ydych chi’n methu ag ad-dalu gallwch ofyn am gefnogaeth gan eich Partner Cyflenwi neu fentor ond nodwch y bydd angen i chi siarad â’ch Partner Cyllid sy’n rheoli’ch benthyciad hefyd. Cofiwch, nid cyfrifoldeb y Partner Cyflenwi na’ch mentor yw sicrhau eich bod yn cadw i fyny ag ad-daliadau eich Start Up Loan. Beth bynnag fo’ch perthynas fentora, rydych yn dal i fod yn gyfrifol am ad-dalu eich Start Up Loan yn ôl y cynllun ad-dalu y cytunwyd arno a fydd yn cael ei drafod yn ystod y broses ymgeisio.

            A fydd fy mentor yn gallu rhoi cyngor am ddyledion?

            Na, mae eich mentor yno i ddarparu arweiniad cyffredinol a ni all ef/hi roi cyngor penodol ar faterion megis cwnsela dyled. Siaradwch â’ch Partner Cyllid os ydych chi’n poeni am fethu ad-daliad sydd ar y ffordd, neu os ydych eisoes wedi methu ad-daliad, ac ewch i’n hadran Cwestiynau Cyffredin am Ad-daliadau i gael arweiniad pellach ar wasanaethau allanol a all eich helpu hefyd.

            Ein partneriaid cyflenwi

              Beth yw partner cyflenwi?

              Mae’n bwysig i ni ein bod yn rhoi pob cyfle i’n holl gwsmeriaid lwyddo, gyda’u cais am Start Up Loan a’u busnes cyfan. Dyna pam rydym yn cyflogi rhwydwaith cenedlaethol o sefydliadau Partner Cyflenwi gyda chynghorwyr busnes profiadol.

              Yn ogystal â helpu ymgeiswyr i baratoi eu cynllun busnes a’u rhagolwg llif arian, mae ein Partneriaid Cyflenwi yn gyfrifol am asesu ceisiadau am fenthyciad ac yn rhoi cefnogaeth fentora barhaus i ymgeiswyr llwyddiannus. Pan fyddwch yn gwneud cais am Fenthyciad Dechrau Busnes, byddwch yn cael eich paru â chynghorydd busnes i’ch helpu i symud pethau ymlaen a bod yn bwynt cyswllt allweddol â’r cynllun.

              Rydym yn gweithio’n agos gyda’n Partneriaid Cyflenwi, sy’n gweithredu mewn gwahanol ranbarthau a diwydiannau ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, i sicrhau bod penderfyniadau benthyca cyfrifol yn cael eu gwneud.

              Rydym yn paru ein holl ymgeiswyr gydag un o’n Partneriaid Cyflenwi a, lle bo hynny’n bosib, yn eich paru gyda Phartner Cyflenwi sy’n gweithredu yn eich ardal leol.

              Sylwch: er mwyn sicrhau y gallwn eich cefnogi’n effeithiol, dim ond gydag un Partner Cyflenwi y byddwch yn gallu gweithio ac ni fyddwch yn gallu newid eich partner ar ôl i chi gyflwyno’ch cais.

              Ad-daliadau Benthyciad

                Os ydw i’n tynnu allan o’r busnes neu os yw’r busnes yn rhoi’r gorau i fasnachu, a oes rhaid i mi ad-dalu’r benthyciad?

                Oes, benthyciad personol a ddefnyddir at ddibenion busnes yw Start Up Loan ac felly rydych chi’n bersonol yn atebol am ad-dalu’r benthyciad llawn a’r llog yn unol â’r Cytundeb Benthyciad a lofnodwyd gennych, waeth beth yw statws eich busnes neu’ch swydd ynddo. Yr unig amser y gallwch ad-dalu’ch benthyciad heb orfod talu unrhyw log yw yn ystod y cyfnod ailfeddwl 14 diwrnod, yn syth ar ôl llofnodi’ch Cytundeb Benthyciad. Yn ystod y cyfnod hwn, os penderfynwch nad ydych eisiau eich benthyciad mwyach gallwch ddychwelyd yr arian ac ni fyddwch yn atebol am unrhyw ran o’r llog yr ydych wedi’i gronni. Gweler eich Cytundeb Benthyciad i gadarnhau manylion eich cyfnod ailfeddwl.

                Beth yw’r cyfnod ad-dalu ar gyfer Start Up Loan?

                Mae’n ofynnol i chi wneud ad-daliadau misol dros gyfnod o un i bum mlynedd, yn dibynnu ar eich fforddiadwyedd a’r hyn sydd orau gennych. Bydd yr union gyfnod yn cael ei gytuno fel rhan o’r broses gwneud cais ac yn cael ei ddogfennu yn eich Cytundeb Benthyciad os yw eich cais yn llwyddiannus.

                Beth ddylwn ei wneud os ydw i’n meddwl fy mod am golli ad-daliad benthyciad?

                Dylech gysylltu â’ch Partner Cyllid yn syth i roi gwybod iddynt am eich sefyllfa. Mae’n well bob amser eich bod chi’n siarad â’ch Partner Cyllid os ydych chi’n credu efallai na fyddwch chi’n gallu gwneud eich ad-daliad nesaf yn hytrach nag aros nes bydd y taliad yn cael ei fethu.

                Beth sy’n digwydd os ydw i’n methu â thalu ad-daliadau fy menthyciad?

                Mae ein Partneriaid Cyllid yn dilyn arfer safonol y farchnad pan mae ad-daliadau benthyciad yn cael eu colli ac yn cymryd agwedd deg a resymol. Os nad ydych yn gwneud ad-daliad bydd eich Partner Cyllid yn ceisio cysylltu â chi i weld pam fod y taliad wedi’i golli. Byddant hefyd yn gweithio gyda chi i ddod i gytundeb rhesymol a theg ynghylch sut byddwch yn delio â’r peth ac yn cyflawni eich rhwymedigaethau yn y dyfodol. Dilynir hyn gydag e-bost a/neu lythyr yn nodi bod ad-daliad(au) wedi’i fethu ac yn amlinellu’r hyn sydd angen ei wneud i adfer y sefyllfa.

                Os na all eich Partner Cyllid gysylltu â chi ar ôl ceisio dro ar ôl tro, yna gall geisio adennill y taliadau sy’n ddyledus trwy amryw o ffyrdd megis, ond heb fod yn gyfyngedig i, gwneud cais i gyhoeddi Dyfarniad Llys Sirol (CCJ) neu gyfeirio’ch achos at Asiant Casglu Dyledion cymeradwy. Os nad ydych yn siŵr pwy yw eich Partner Cyllid, edrychwch ar eich Cytundeb Benthyciad.

                Rwy’n meddwl fy mod yn profi anawsterau ariannol ac angen cymorth i reoli fy nghyllid. Beth allaf ei wneud?

                Peidiwch â phoeni mae yna ddigon o sefydliadau sy’n gallu cynnig cyngor ar ddyledion diduedd am ddim. Mae The Start Up Loans Company yn gweithio’n agos gydag elusen dyledion flaenllaw, sef yr Ymddiriedolaeth Cyngor Ariannol, sy’n cynnig y gwasanaethau canlynol:

                Y Llinell Ddyled Genedlaethol:

                Arbenigwyr ar ddyled sy’n ymrwymedig i helpu unigolion i wella eu sefyllfa. Mae miliynau o bobl eisoes wedi cael cymorth i reoli eu dyledion.

                Y llinell dyledion busnes:

                Gwasanaeth unigryw sy’n helpu pobl hunan-gyflogedig a busnesau bach i reoli eu dyledion.
                Mae yna fanylion ffynonellau eraill o gyngor ar ddyledion diduedd am ddim isod:

                Er bod eich Partner Cyflenwi yn gallu darparu cymorth ac arweiniad mewn perthynas â’ch busnes a’ch Start Up Loan, ni all ddarparu cyngor annibynnol ar ddyledion. Dylech gysylltu â’r sefydliadau uchod am gyngor o’r fath.

                *Sylwch: Nid yw’r Start Up Loans Company yn cymeradwyo unrhyw gwmnïau rheoli dyledion sy’n codi ffioedd am gyngor ar ddyledion neu gynlluniau talu i reoli dyled. Cysylltwch â ni ar unwaith os yw cwmni o’r fath yn cysylltu â chi.

                Rwyf wedi cael Hysbysiad Diffyg Talu gan fy Mhartner Cyflenwi neu Bartner Cyllid. Beth ddylwn i ei wneud?

                Mae’n bwysig eich bod yn ymateb i unrhyw hysbysiadau diffyg talu mor fuan â phosib. Bydd manylion cysylltu llawn yn cael eu nodi ar yr hysbysiad.

                Beth sy’n digwydd os na fyddaf yn ymateb i hysbysiadau diffyg talu neu ddim yn cadw i fyny gydag ad-daliadau?

                Mae’n bwysig eich bod yn ymateb i unrhyw hysbysiadau a gewch ac yn cadw i fyny â’ch ad-daliadau. Fel unrhyw gynnyrch cyllid i ddefnyddwyr rheoledig, gall peidio â chwrdd â’r ad-daliadau gofynnol arwain at un neu fwy o’r camau isod yn eich erbyn:

                • Gellir hysbysu Asiantaethau Gwirio Credyd am unrhyw symiau sy’n ddyledus, a allai effeithio ar eich statws credyd a’ch gallu i gael nwyddau, gwasanaethau neu fathau penodol o gyflogaeth.
                • Gallai asiantaeth casglu trydydd parti ymyrryd i helpu i adennill unrhyw symiau sy’n ddyledus.
                • Gallai achos cyfreithiol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Ddyfarniad Llys Sirol gychwyn.

                Rwyf wedi cael gohebiaeth gan Asiantaeth Casglu Dyledion. Beth ddylwn i ei wneud?

                Os ydych wedi methu â gwneud yr ad-daliadau y cytunwyd arnynt, efallai y bydd un o’n Hasiantaethau Casglu Dyledion cymeradwy yn cysylltu â chi. Hyd nes y rhoddir rhybudd pellach, byddant yn goruchwylio’ch benthyciad trwy eich helpu i gyfrifo’ch ad-daliadau rheolaidd neu eich cyfeirio at gyngor allanol perthnasol er mwyn adennill y costau hyn. Felly, dylech gysylltu â’r asiantaeth cyn gynted â phosibl i ddechrau’r broses hon. Sylwch: yn y rhan fwyaf o achosion, unwaith y bydd Asiantaeth Casglu Dyledion wedi ymyrryd yn y broses, ni fydd The Start Up Loans Company a’n Partneriaid Cyflenwi yn gallu gwneud sylwadau pellach am eich benthyciad.

                Start Up Loans Company

                  Beth yw’r Start Up Loans Company?

                  Sefydlwyd The Start Up Loans Company ym mis Medi 2012, gyda chenhadaeth i helpu busnesau newydd a cham cynnar y DU i gael gafael ar gyllid fforddiadwy a chymorth mentora i ddechrau arni a thyfu. Rydym yn is-gwmni i Fanc Busnes Prydain ac yn cyflwyno rhaglen Start Up Loans y Llywodraeth sy’n darparu cyllid a chefnogaeth i fusnesau sy’n ei chael hi’n anodd cael gafael ar fathau eraill o gyllid.

                  Beth yw cysylltiad The Start Up Loans Company â’r Llywodraeth?

                  Mae’r rhaglen Start Up Loans yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth. Mae The Start Up Loans Company yn aelod o grŵp Banc Busnes Prydain. Mae Banc Busnes Prydain cyf yn fanc datblygu sydd dan berchnogaeth lwyr Llywodraeth ei Mawrhydi.

                  Beth yw cyfeiriad cofrestredig The Start Up Loans Company?

                  Cyfeiriad Swyddfa Cofrestredig: (Tŷ’r Cwmnïau)
                  The Start-Up Loans Company
                  Steel City House
                  West Street
                  Sheffield
                  S1 2GQ

                  Y Broses Apeliadau

                    Mae fy nghais wedi cael ei wrthod ar ôl gwiriad credyd, a allaf apelio yn erbyn y penderfyniad hwn?

                    Gallwch, mae gennych 30 diwrnod o ddyddiad y canlyniad i wneud apêl.

                    Dyddiad y canlyniad yw’r dyddiad y cawsoch yr e-bost yn eich hysbysu o’r penderfyni

                    Sut ydw i’n gwneud apêl yn erbyn penderfyniad gwiriad credyd?

                    Rydym wedi ymrwymo i fenthyca cyfrifol ac, fel rhan o hyn, rydym yn adolygu ymddygiad ariannol blaenorol pob cwsmer a’i allu presennol i fforddio’r benthyciad. Am y rheswm hwn, ni allwn fenthyg i unigolion â rhai problemau credyd (i ddysgu mwy am sut rydym yn gwneud ein penderfyniad credyd, cliciwch yma). Dyna pam rydym ni’n gofyn i gwsmeriaid sicrhau bod y wybodaeth sy’n cael ei dal gan asiantaethau gwirio credyd yn gywir, cyn i ni ystyried eich apêl.

                    Os yw’r wybodaeth sydd yn eich adroddiad credyd yn anghywir, bydd angen i chi drafod hyn gyda’ch asiantaeth gwirio credyd cyn i ni benderfynu ar eich apêl credyd, gan ein bod ni’n defnyddio gwybodaeth a ddarperir ganddynt yn ein gwiriad credyd. Lle bo hynny’n briodol, gallwn yna ystyried adolygu’r penderfyniad credyd ar ôl i unrhyw wiriadau gael eu gwneud i’ch adroddiad credyd.

                    Am ragor o wybodaeth am eich hanes credyd ewch i: Experian.

                    Gallwch wneud apêl trwy gysylltu â The Start Up Loans Company (SUL) a llenwi ein ffurflen.

                    Os byddwch yn penderfynu apelio, gofynnir i chi roi rheswm (rhesymau) dilys dros pam y dylid clywed eich apêl ac am gopi o’ch adroddiad credyd.

                    Mae fy nghais wedi cael ei wrthod yn dilyn ail-gynnal gwiriad credyd, a allaf apelio yn erbyn y penderfyniad hwn?

                    Gallwch, mae gennych 30 diwrnod o ddyddiad y canlyniad i wneud apêl.

                    Dyddiad y canlyniad yw’r dyddiad y cawsoch yr e-bost yn eich hysbysu o’r penderfyniad.

                    Sut ydw i’n apelio yn erbyn penderfyniad yn dilyn ail-gynnal gwiriad credyd?

                    Gallwch, mae gennych 30 diwrnod o ddyddiad y canlyniad i wneud apêl i’ch Partner Cyflenwi.

                    Dyddiad y canlyniad yw’r dyddiad y cawsoch yr e-bost yn eich hysbysu o’r penderfyniad.

                    A allaf apelio yn erbyn penderfyniad asesu?

                    Gallwch, mae gennych 30 diwrnod o ddyddiad y canlyniad i wneud apêl i’ch Partner Cyflenwi.

                    Dyddiad y canlyniad yw’r dyddiad y cawsoch yr e-bost yn eich hysbysu o’r penderfyniad.

                    Sut ydw i’n gwneud apêl yn erbyn y penderfyniad asesu?

                    Gallwch gysylltu â’ch Partner Cyflenwi dros y ffôn neu e-bost, gellir dod o hyd i’w fanylion yn y porth cwsmeriaid neu ar e-bost diweddar.

                    Os byddwch yn penderfynu apelio, gofynnir i chi ddarparu rheswm (rhesymau) dilys dros pam eich bod yn meddwl bod y penderfyniad gwreiddiol yn anghywir. Byddwch yn gallu darparu gwybodaeth ychwanegol i gefnogi eich apêl.

                    Gall eich Partner Cyflenwi eich helpu i nodi pa wybodaeth ychwanegol fydd ei hangen.

                    Beth yw’r broses apelio yn erbyn asesiad?

                    Bydd eich partner cyflenwi yn adolygu’ch cais yn annibynnol, gan adolygu’r cais gwreiddiol ac unrhyw wybodaeth newydd rydych wedi’i darparu i gefnogi’ch cais.

                    Gan fod ein holl asesiadau yn mynd trwy broses asesu ddeuol i ddechrau, anaml y bydd apêl yn cael ei gwrthdroi.

                    Os na chaiff eich apêl ei chadarnhau, gallwch ailymgeisio 6 mis ar ôl y penderfyniad gwreiddiol, a fydd yn rhoi amser i chi wella hyfywedd eich busnes neu fynd i’r afael ag unrhyw bryderon ynghylch fforddiadwyedd a godwyd.

                    Os caiff eich apêl ei chadarnhau, yna bydd eich cais yn mynd yn ei flaen yn ôl yr arfer a bydd eich Partner Cyflenwi yn eich tywys trwy unrhyw gamau nesaf.